Oxford United 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd yn ddiguro mewn chwe gêm yn Adran 2 ar ôl sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Oxford United nos Fawrth.
Er mai'r tîm cartref oedd yn rheoli, Casnewydd aeth ar y blaen o ergyd Lenell John-Lewis o du allan i'r cwrt cosbi cyn yr egwyl.
Ond fe wnaeth pwysau Oxford ddangos wrth i Pat Hoban unioni'r sgôr gydag 20 munud yn weddill.
Daeth y clwb o Gymru'n agos i gipio'r pwyntiau yn y munudau olaf o ergyd Aaron Collins, ond bu'n rhaid iddyn nhw setlo am bwynt.