Hacio TalkTalk: Arestio dyn 18 oed o Lanelli
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed o Lanelli wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i honiadau o hacio i systemau cyfrifiadurol cwmni Talk Talk.
Dyma'r pumed person i gael ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad i'r digwyddiad.
Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o flacmel, ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa mewn gorsaf Heddlu Dyfed Powys.
Tarian - Uned Troseddau Cyfundrefnol De Cymru - oedd yn gyfrifol am arestio a chwilio cartref y llanc.
Cafodd gwefan TalkTalk ei hacio ym mis Hydref, gyda honiadau bod data wedi'i ddwyn gan y cwmni.
Mae'r pedwar arall sydd wedi'u harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, gan gynnwys bachgen 15 oed o Ogledd Iwerddon, dau 16 oed o Lundain a Norwich, a dyn 20 oed o Sir Stafford.
Dywedodd y cwmni bod y lladron wedi cael gafael ar hyd at 1.2 miliwn o gyfeiriadau ebyst a rhifau ffôn, a manylion 21,000 o gyfrifon banc.