Cwest: Pryderon 'camdriniaeth' cyn marwoaleth milwr
- Cyhoeddwyd

Cafodd pryderon eu codi am "gamdriniaeth" cyn marwolaeth milwr gafodd ei orfodi i wneud ymarfer corff fel cosb, mae cwest wedi clywed.
Fe wnaeth Preifat Gavin Williams, 22 oed, o Hengoed yn Sir Caerffili, ddioddef methiant y galon ar ôl cael ei gosbi ym Marics Tidworth, Wiltshire yn 2006.
Clywodd y cwest bod capten ar y pryd wedi codi pryderon am gosb corfforol arall tua mis ynghynt.
Dywedodd Owain Luke, sydd bellach yn is-gyrnol, bod Sarjant Russell Price yn rhan o'r ddau achos, ond bod ei ymddygiad yn "nes at fwlio" na adlewyrchiad o'r sefyllfa ehangach.
Addas 'dan rai amgylchiadau'
Dywedodd Is-gyrnol Luke ei fod wedi siarad am ei bryderon gyda'r Is-gapten Mark Davis, y swyddog oedd yn gyfrifol am gosbi.
Roedd wedi dweud wrth yr is-gapten "bod dau o fy staff wedi eu camdrin gan staff PTI [physical trainig instructor] a bod hynny yn anghywir a bod angen iddo edrych i mewn i'r peth".
Ychwanegodd Is-gyrnol Luke mai dyma oedd yr unig achos yr oedd wedi sylwi arno o'r blaen.
Mae'r cwest eisoes wedi clywed bod Sarjant price wedi gorfodi Preifat Williams i wneud ymarfer corff dwys ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Bu farw'n ddiweddarach o fethiant y galon, a hynny o ganlyniad i drawiad gwres. Roedd ecstasi yn ei waed pan fu farw.
Dywedodd Is-gyrnol Luke ei fod yn cael argraff bod Capten Davis yn teimlo bod cosbau corfforol yn addas "dan rai amgylchiadau".
Ychwanegodd: "Mae'n hawdd gweld nawr ei fod yn rhan o driniaeth ehangach, ond nid oeddwn i'n ei weld fel yna ar y pryd."