Wrecsam: Defnydd y Gymraeg yn 'isel'
- Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ar-lein am 10 wythnos i geisio deall pam fod cyn lleied yn defnyddio gwasanaethau'r cyngor yn Gymraeg.
Gobaith y cyngor ydi ceisio darganfod pam fod y niferoedd sy'n derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn "isel ac yn siomedig", er bod yr awdurdod yn darparu cyfleoedd i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn enwedig ar-lein, meddai'r cyngor.
Ar hyn o bryd mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n cyfathrebu â Chyngor Wrecsam yn eu hiaith eu hunain yn "isel", ac mae rhyngweithio ar dudalennau Cymraeg gwefan y Cyngor a thudalennau cyfryngau cymdeithasol yn tua 2% o'r defnydd.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn helpu i lunio gwasanaethau Cymraeg cyngor yn y dyfodol.
Rhwystrau
Wrth drafod yr ymgynghoriad newydd, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones y byddai canlyniadau'r ymgynghoriad yn galluogi'r cyngor i nodi beth yw'r rhwystrau i ddefnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd: "Mae'n bwysig ein bod yn deall pam fod y defnydd mor isel yn enwedig o ran ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a derbyn gwybodaeth am y cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Bydd canlyniadau'r arolwg yn ein cynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o sut y mae ein preswylwyr Cymraeg yn dymuno i ni gyfathrebu â nhw a'r dulliau a ffefrir ganddynt. Byddwn yn annog cynifer o bobl â phosibl i lenwi'r arolwg ac annog teulu a ffrindiau i wneud hynny hefyd."
Ffrae Safonau Iaith
Yn gynharach eleni fe wnaeth Cyngor Wrecsam ysgrifennu at Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, i ddadlau y byddai cydymffurfio gyda Safonau Iaith Newydd yn costio £700,000 y flwyddyn yn ychwanegol, ond fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyhuddo'r cyngor o or-amcangyfrif y gost, a hynny fel ymgais i "danseilio'r Safonau".
Ar y pryd, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones nad oedd y cyngor wedi gor-ddweud y ffigyrau, a'u bod yn seiliedig ar ei amcangyfrifon gorau.
Dywedodd wedyn bod y ffigwr wedi gostwng i £250,000 y flwyddyn ar ôl i'r Comisiynydd "gynnwys eithriad yn nifer y Safonau ble y nodwyd y byddai cost yn rhwystr i gydymffurfio".
Mae'r ffigwr hefyd yn cynnwys lleihad ym mhris y meddalwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2015