Cynlluniau gwariant George Osborne: Be' am Gymru?
- Cyhoeddwyd

Bydd rheolaeth dros rai trethi incwm fydd yn cael eu codi yng Nghymru'n cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru heb orfod cynnal refferendwm, meddai'r Canghellor George Osborne ddydd Mercher.
Roedd Mr Osborne yn rhannu manylion ei adolygiad gwariant ar gyfer y pedair blynedd nesaf hyd at yr etholiad cyffredinol yn 2020.
Fe gyflwynodd Mr Osborne hefyd 'sylfaen ariannu', sy'n golygu na fydd gwariant ar wasanaethau datganoledig fel iechyd ac addysg yng Nghymru ddim yn disgyn islaw £115 ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr.
Ychwanegodd y Canghellor y byddai'n "helpu i ariannu cytundeb dinesig" i Gaerdydd ac ardaloedd cyfagos.
Wrth gyfeirio at gyllid Swyddfa Cymru, dywedodd Mr Osborne y byddai'n cael ei "warchod mewn termau real".
Disgrifiodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y newidiadau i'r setliad fel "carreg filltir" i Gymru.
Datganoli trethi heb refferendwm
Efallai mai'r prif newydd yn araith Mr Osborne ddydd Mercher oedd y penderfyniad i ddatganoli rhai trethi incwm heb refferendwm.
Mae'n golygu y gallai Gweinidogion Cymru gael rheolaeth dros tua £3bn o dreth refeniw o 2018, sy'n newid sylweddol i'r setliad datganoli. Mae rhai trethi, gan gynnwys treth stamp, i fod i gael eu datganoli ym mis Ebrill 2018 yn barod.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS: "Does dim byd nawr yn atal Llywodraeth Cymru rhag bwrw 'mlaen gan ddefnyddio'r camau ariannol rydym wedi datganoli er mwyn galluogi economi Cymru i dyfu, ac i wella gwasanaethau cyhoeddus.
"Trwy gael gwared ar yr angen am refferendwm ar dreth incwm, bydd Cynulliad Cymru'n gallu cymryd ei le o'r diwedd ymysg cyrff deddfwriaethol aeddfed eraill trwy fod yn atebol i'r bobl mae'n gwasanaethu.
"Wrth ddelifro ar ein hymrwymiad i gyflwyno sylfaen ariannu i Gymru, ac ar yr un pryd cynyddu cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, rydym yn rhoi'r arfau sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru gynnig cynlluniau pwysig i Gymru.
Ymateb
Mewn ymateb i gynlluniau'r Canghellor, dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt:
"Yn dilyn cyfnod o doriadau digynsail i gyllid Cymru, does yna fawr i'n cymunedau lawenhau yn ei gylch yn yr adolygiad gwariant hwn...Mae'r Canghellor yn rhoi gydag un llaw ac yn tynnu'n ol gyda'r llall.
"Er bod croeso i'r ymrwymiad at sylfaen ariannu fydd yn golygu fod gwariant cyhoeddus yng Nghymru'n 115% o'r cyfartaledd yn Lloegr, mae hyn wedi'i gyfyngu i'r Senedd hon yn anffodus. Does gennym ni ddim cyllido teg eto ac mae'n hanfodol fod 'na gytundeb ar ffordd ymlaen.
"Er gwaetha' y troeon pedol ar gredydau treth a thoriadau i'r heddlu, mae'r adolygiad gwariant hwn wedi methu cyfleon. Roedden ni eisiau gweld ymrwymiad i dreth teithio awyr, manylion llawn am drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe a Bae Abertawe, ac yng Ngogledd Cymru, a rhywbeth ar y lagwn morol."
Croesawodd Plaid Cymru'r cyhoeddiad, gyda'r AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards yn dweud: "Byddai cynnal refferendwm wedi bod yn wastraff llwyr o adnoddau ac amser, ac rydyn ni'n falch fod Llywodraeth y DU wedi gweld synnwyr ar y mater hwn."
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Bydd yr hawl i addasu rhai trethi yn dod â'r atebolrwydd sydd ei angen i system wleidyddol Cymru. Am yn rhy hir mae llywodraethau Cymru wedi gallu gwario arian heb y cyfrifoldeb o'i gasglu."
Ymateb yn chwyrn i'r penderfyniad wnaeth Nathan Gill, yr ASE ar ran plaid UKIP: "Mae'n gwbl warthus bod Osborne wedi agor y drws i ddatganoli grymoedd dros drethi i Gymru heb refferendwm i'r bobl. Rydym wedi clywed dro ar ôl tro na fyddai'r grymoedd hyn yn llithro i mewn trwy'r drws cefn ac fe fyddai pobl Cymru yn cael lleisio eu barn.
"Rydym nawr yn wynebu sefyllfa lle mae'r blaid Lafur sy'n rhedeg y Cynulliad, ac sydd wedi llywodraethu dros ddirywiad parhaus ers iddo gael ei sefydlu, nawr gyda'r grym i osod cyfraddau treth heb arddangos eu bod gyda'r gallu ariannol i wneud hynny."
Beth arall oedd yn araith Osborne?
Gostwng dyled
Wrth draddodi ei araith ddydd Mercher, fe wnaeth y Canghellor addo gostwng dyled y wlad, ac y byddai arbedion o £12bn ar wariant budd-daliadau'n cael eu gwireddu o fewn amser.
Yn ôl rhagolygon y Canghellor, bydd Prydain yn symud o fod â diffyg o £73.5 biliwn yn 2015-16 i fod â gweddill o £10.1 biliwn yn 2019-20.
'Tro pedol' ar gredydau treth
Fe fydd y Canghellor yn osgoi gwneud newidiadau dadleuol i'r drefn credydau treth bresennol, gan fod disgwyl i'r drefn ddiflannu'n llwyr yn y pen draw, meddai.
Mae'r tro pedol yn golygu na fydd y Canghellor yn cadw at y cap budd-daliadau yr oedd wedi anelu amdano yn y blynyddoedd cynta', ond mae'n mynnu y bydd yn cyrraedd y nod yn y blynyddoedd wedyn.
Cytundeb dinesig
Dywedodd y Canghellor bod cytundeb mewn egwyddor ar ariannu buddsoddiad gwerth £1bn ar gyfer cynllun datblygu dinas Caerdydd a'r rhanbarth, ac fe fyddai trafodaethau mwy manwl yn cael eu cynnal yn y misoedd i ddod.
Mae'r cytundeb yn cynnwys cronfa i'w gwario ar brosiectau isadeiledd. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi cytuno'n barod i gyfrannu £580m at hyn.
Trosedd a chosb
Cyhoeddodd na fyddai toriadau i gyllideb yr heddlu ac fe addawodd ddiogelu gwariant yr heddlu.
Bydd hen garchardai'n cael eu cau a'u gwerthu i ddau bwrpas, meddai - cael arian i godi naw carchar newydd a chreu lle i gartrefi newydd yng nghanol dinasoedd.
Gwasanaethau cyhoeddus
Dywedodd Mr Osborne mai'r flaenoriaeth oedd y gwasanaeth iechyd, gan gyhoeddi y byddai'r cyllid yn Lloegr yn codi o £101bn i £120bn yn 2020/1.
Bydd lefel y pensiwn gwladol yn codi o £3.35 i £119.30 yr wythnos o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Be na chafodd sylw?
Wnaeth y Canghellor ddim trafod cynlluniau gwariant ar drydaneiddio rheilffyrdd de a gogledd Cymru, na'r cynllun ynni gwyrdd i adeiladu lagŵn ym mae Abertawe. Doedd 'na ddim sôn chwaith am ddyfodol cyllideb S4C.
Yn ôl Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, hon oedd y gyllideb anoddaf i'r Canghellor ar ôl i amgylchiadau glymu ei ddwylo mewn sawl maes.
Tamaid i aros pryd oedd cyllideb y gwanwyn eleni, a rhagflas o'r hyn oedd i ddod oedd y gyllideb frys yn yr haf, meddai.
Dadansoddiad James Williams, Gohebydd Seneddol BBC Cymru
Yn ôl yr arfer, roedd gan George Osborne ambell gwningen yn ei het - fyddech chi'n disgwyl dim llai erbyn hyn gan un o'r cangellorion mwyaf theatraidd yn ein hanes.
Cyn heddiw, roedd y sylw mawr ar ddwy fagl posib oedd yn ei hwynebu.
Ond ar lawr Tŷ'r Cyffredin, roedd Mr Osborne wedi gallu ei hosgoi nhw - mae'n cael gwared ar ei gynllun i dorri credydau treth ac na fydd yna doriad yng nghyllideb yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Hefyd, er ei fod e'n torri £20 biliwn allan o gyllidebau rhai o adrannau'r llywodraeth, mae'r toriadau hynny'n llai na'r disgwyl.
Er hynny, yn ôl rhagolygon y canghellor, fe fydd e'n parhau i gael gwared ar y diffyg yn y gyllideb erbyn diwedd y Senedd bresennol.
O ganlyniad, roedd yna gwestiwn ar wefusau aelodau seneddol o bob lliw y prynhawn yma - sut yn union mae fe wedi gallu gwneud hynny?
Yr ateb syml - trethi.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynyddu rhai trethi ac mae'r Trysorlys, ar hyn o bryd o leiaf, yn derbyn fwy o arian o drethi.
Felly, ar yr olwg gyntaf, mae'r datganiad heddiw yn edrych fel llwyddiant arall i'r Canghellor.
Ond, mae'r rhagolygon ariannol yn gallu newid yn gyflym ac fel gwelon ni yn dilyn Cyllideb yr Haf, mae cyhoeddiadau George Osborne yn gallu colli ei sglein dros amser.
Wrth reswm, mae'r canghellor yn cyflwyno'r fersiwn orau o'r fath penderfyniadau ariannol ar lawr Tŷ'r Cyffredin.
Fe gawn ni wir syniad o gynnwys Datganiad yr Hydref dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.