TalkTalk: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
TT

Mae dyn 18 oed o Lanelli gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i honiadau o hacio i systemau cyfrifiadurol cwmni TalkTalk wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fo oedd y pumed person i gael ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad i'r digwyddiad, ac fe gafodd ei arestio'n wreiddiol ar amheuaeth o flacmel.

Tarian - Uned Troseddau Cyfundrefnol De Cymru - oedd yn gyfrifol am arestio a chwilio cartref y dyn.

Cafodd gwefan TalkTalk ei hacio ym mis Hydref, gyda honiadau bod data wedi'i ddwyn gan y cwmni.

Mae'r pedwar arall sydd wedi'u harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, gan gynnwys bachgen 15 oed o Ogledd Iwerddon, dau 16 oed o Lundain a Norwich, a dyn 20 oed o Sir Stafford.

Dywedodd y cwmni bod y lladron wedi cael gafael ar fanylion 156,959 o gwsmeriaid, a manylion 15,656 o gyfrifon banc.