Casnewydd: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Clarence Place yng Nghasnewydd
Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn 28 oed ar amheuaeth o lofruddio dyn yng Nghasnewydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Clarence Place, Casnewydd am 19:50 nos Fawrth, 24 Tachwedd.
Roedd dau ddyn, un 28 oed ac un 36 oed, wedi cael eu trywanu.
Aed a'r ddau i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle bu farw'r dyn 36 oed yn ddiweddarach.
Yn ôl yr heddlu, dy'n nhw ddim yn chwilio am unrhywun arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.