Y Gymraes o Bwllheli a dathlu Nadolig yn Y Wladfa
- Cyhoeddwyd

Mae 2015 wedi bod yn flwyddyn o ddathlu mawr ym Mhatagonia a hithau'n 150 o flynyddoedd ers i'r Mimosa gludo'r Cymry draw yno.
Ond sut maen nhw'n dathlu'r Dolig yno? Mae Cymru Fyw wedi bod yn holi Cymraes sydd wedi symud o Bwllheli i'r Gaiman, Esyllt Nest Roberts, am ei hargraffiadau hi o'r Nadolig yn y Wladfa.
Siôn Corn mewn Sandals?
Na, dydi hynny ddim yn swnio'n iawn rywsut, nac ydi? Mwy nag ydi bwyta salad ffrwythau a hufen iâ ar ôl cinio Nadolig neu chwysu a chwyno am wres llethol wrth agor anrhegion, a golau'r dydd yn para tan yn hwyr, hwyr …
Doeddwn i ddim wedi llwyr ystyried effaith y tywydd a'r tymhorau ar amrywiol ddathliadau'r flwyddyn tan i mi ddod i fyw i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Heblaw am ambell ryfeddod amlwg (megis dathlu gŵyl Diolchgarwch ym mis Ebrill), feddyliais i erioed mor hyfryd mewn gwirionedd ydi dathlu gŵyl y goleuni yng Nghymru oherwydd bod y goleuadau bach gwynion yn trechu'r tywyllwch.
Does dim i guro swatio o flaen y tân efo diod boeth a'r gwynt yn chwipio'r tu allan, nag oes? Ac yma yn y Wladfa, a'r tywydd i'r gwrthwyneb, mae hynny'n dylanwadu ar y dathlu heb os.
Llai o 'ffys'
Bydd Cymry'n aml iawn yn fy holi sut Nadolig mae'r Archentwyr yn ei gael. Un peth trawiadol i rywun fel fi o'r hen wlad yw'r ffaith nad yw'r Nadolig i'w 'weld' yma tan ganol mis Rhagfyr bron.
Mae llawer llai o addurniadau, cardiau, a bwydydd gwahanol yn y siopau ac mewn cartrefi nag sydd yng Nghymru, a llai o "ffys" yn gyffredinol. Dim ond y teulu agos sy'n rhannu anrhegion a bydd sach Siôn Corn yn llawer ysgafnach yma hefyd.
Gweithia'r rhan fwyaf o bobl tan Noswyl Nadolig cyn cael Dydd Nadolig yn rhydd a dychwelyd i'r gwaith ar 26 Rhagfyr. Bydd rhai o'r capeli yn cynnal gwasanaethau cyn yr ŵyl - ond ar wahân i hynny chlywch chi fawr o garolau, na fawr o sôn am y Geni chwaith, a dweud y gwir.
Daw teuluoedd ynghyd ar Noswyl Nadolig i rannu pryd o fwyd; felly hefyd amser cinio ar Ddydd Nadolig. Oen wedi ei rostio ar groes, saladau, a phwdin ysgafn fyddwn ni'n eu cael, a hynny dan y coed helyg ar fferm y teulu. Rhaid cyfaddef y bydda' i'n hiraethu am dwrci a grefi Mam, pwdin plwm a mins peis.
'Hiraethu'
Dyma sy'n gyffredin yn Nyffryn Camwy. Bydd rhai yn mynd i'r traeth i fwynhau awelon y môr - a gorau oll os daw Gwynt y De i'n rhyddhau o grafangau pelydrau'r haul.
A dyna ni - ar ôl y gloddesta, siesta! - cyn mwynhau cwmni'r teulu tan ddiwedd y dydd.
Ydi, mae'r symlrwydd yn braf o'i gymharu â gwallgofrwydd a gorfwyta'r Nadolig yng Nghymru. Ond ar y llaw arall, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn hiraethu am y carolau, y goleuni a'r clydwch wrth ddathlu'r ŵyl acw hefyd.
'Man gwyn, man draw' ydi hi o hyd ynte?
Nadolig Llawen - Feliz Navidad!