Marwolaethau Corwen: Enwi dyn

  • Cyhoeddwyd
corwenFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 ger Corwen ar ddydd Sadwrn 21 Tachwedd pan fu farw pedwar o bobl.

Roedd Anthony 'Tony' Steel yn 74 oed ac yn dod o Benbedw ar Lannau Mersi.

Bu farw tri dyn ifanc o ardal Corwen yn y digwyddiad hefyd. Enwau'r tri dyn lleol oedd Jacob Hocking, Jackson Edwards ac Adam Richards.

Roedd y dynion a fu farw yn teithio ar yr A5 tua 11:40. Bu Vauxhall Astra mewn gwrthdrawiad â Vauxhall Zafira.

Roedd y tri dyn ifanc o ardal Corwen yn teithio yn y car Astra, a bu farw'r tri yn y fan a'r lle.

Cafodd dau ddyn yn cynnwys Mr Steel eu cludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke lle bu farw Mr Steel yn ddiweddarach.

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Anthony Steel ei fod yn ŵr cariadus a chlen i Joan am 43 o flynyddoedd, yn dad cariadus i Matthew, Jane a Luke ac yn daid i chwech.

Roedd yn hoff iawn o gerdded, a gyda diddordeb mawr mewn pobl a'r hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud. Roedd ganddo wên fawr bob tro ac roedd yn glên wrth bawb yr oedd yn ei gyfarfod meddai'r teulu.