BBC Cymru Fyw

John McDonnell yn 'glown', medd AC Llafur

Published
image captionJohn McDonnell yn dangos Llyfr Bach Coch Mao Zedong yn Nhŷ'r Cyffredin

Mae AC Llafur wedi galw canghellor yr wrthblaid yn "glown" yn dilyn ei ymateb i'r gyllideb ddydd Mercher.

Dywedodd Alun Davies, AC Blaenau Gwent, bod John McDonnell "allan o'i ddyfnder".

Fe wnaeth y sylw ar ôl i Mr McDonnell ddangos Llyfr Bach Coch Mao Zedong yn Nhŷ'r Cyffredin, gan ddweud bod y Canghellor George Osborne yn gwerthu £5 biliwn o asedau, yn enwedig i China.

Dywedodd Mr McDonnell mai "ychydig o hwyl" oedd ei sylw.

Fe ddyfynnodd y Cadeirydd Mao gan gyhuddo Mr Osborne o "analluogrwydd economaidd".

Ond fe ddywedodd Mr Davies ar Twitter: "Mae McDonnell yn glown. Allan o'i ddyfnder yn llwyr. Roedden ni angen arweinyddiaeth, cryfder a sylwedd heddiw. Fe gawson ni Mao."

image copyrightTwitter