Guto Bebb: Toriadau S4C 'ddim yn dderbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Galeri

Mae'r AS Ceidwadol Guto Bebb wedi beirniadu ei blaid am y toriadau i gyllideb S4C.

Daw ei sylwadau wedi i'r adolygiad gwariant gadarnhau y bydd lleihad yn yr arian mae'r sianel yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU o £6.7m i £5m erbyn 2019.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad "yn enwedig gan fod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi diogelu neu gynyddu'r cyllidebau ar gyfer sefydliadau yn Lloegr."

Dywedodd Mr Bebb, AS Aberconwy, ei fod yn teimlo'n rhwystredig am ymrwymiad y blaid i'r iaith Gymraeg.

"Mae'n rhwystredigaeth lwyr i mi fod ymdrechion aelodau Ceidwadol yn San Steffan i bwysleisio cyllideb S4C ddim wedi llwyddo hyd yma," meddai wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Ond 'da ni'n gwybod yn 2013 mi lwyddwyd i ddiogelu cyllid S4C ac - yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith ein bod ni wedi gweld cynnydd mewn gwariant ar chwaraeon a chelfeddydau yn Lloegr - mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau i ddatgan yn glir nad ydi'r toriad yma'n dderbyniol."

Disgrifiad o’r llun,
"Mae'r ffaith bod S4C yn wynebu toriad yn siomedig iawn," medd Guto Bebb

Ond dywedodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) bod y gostyngiad "yn gydnaws â'r arbedion sy'n cael eu gwneud mewn llefydd eraill".

Mae'r rhan fwyaf o arian y sianel yn dod o ffi trwydded y BBC. Disgynnodd y swm yna o £101m yn 2009 i £82.8m yn 2014/15.

'Siomedig iawn'

"Dwi'n credu bod y cyhoeddiad yma yn gwbl groes i'r hyn mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru yn ei deimlo," meddai Mr Bebb.

"Mae'n anodd iawn i mi ddatgan 'mod i'r teimlo'n gyfforddus bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi dangos y gefnogaeth i'r Gymraeg ac i S4C y byddwn i wedi'i ddymuno i'w weld.

"Mi oedd 'na ymrwymiad yn y maniffesto i sicrhau bod yna gyllideb ddigonol i S4C.

Mae Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yn poeni am effaith toriadau ar annibyniaeth S4C.

"Rydyn ni wedi lleisio'n pryderon yn gyson am effaith toriadau cyllidol pellach ar y darlledwr o ran ei allu i gyflwyno gwasanaethau y mae angen mawr amdanynt i'w gynulleidfaoedd.

"Mae'r penderfyniad hefyd wedi'i wneud heb gynnal yr adolygiad ar wasanaethau S4C a addawyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2010.

"Mae'n hanfodol fod cyllid digonol yn cael ei roi i S4C a bod ei hannibyniaeth olygyddol a rheolaethol yn cael ei diogelu hefyd er mwyn sicrhau bod y sianel yn parhau yn ei rôl hollbwysig o gefnogi'r Gymraeg a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran y DCMS fod y newid yn "ostyngiad cymedrol yng nghyllideb S4C ar y cyfan".

'Tanseilio'

Yn ôl TAC, y corff sy'n cynrychioli cwmnïau cynhyrchu teledu yng Nghymru, mae'r newidiadau'n "siomedig".

Dywedodd cadeirydd y corff, Iestyn Garlick: "Mae'n siom nad ydi'r llywodraeth wedi gwrando ar y ddadl nad ydi cyllideb S4C yn gynaladwy heb fuddsoddiad pellach, er gwaethaf yr hyn ddywedodd y canghellor yn ei ddatganiad am bwysigrwydd economaidd y diwydiannau creadigol."

"Mae'n anffodus fod sefydliad sydd mor bwysig yn ddiwylliannol ac economaidd yn cael ei danseilio'n raddol gan ostyngiad cyson mewn termau real yn ei gyllideb."

Dywedodd cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones ei bod hi'n "anochel y bydd gan doriadau o'r fath effaith ar ystod ac amrywiaeth y gwasanaeth rydym yn ei gynnig ac ar ein gallu i fanteisio ar gyfleoedd newydd".