Defnyddio'r Gymraeg: Cynnydd yn nifer y siaradwyr
- Cyhoeddwyd

Mae cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl, yn ôl adroddiad newydd.
Mae 131,000 yn fwy yn siarad tipyn o'r iaith nag oedd 'na yn 2004-06.
Ond does dim llawer o newid yn y nifer sy'n rhugl, ac mae'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ardaloedd lle mae hi gryfaf wedi disgyn.
Mae adroddiad "Y Defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru 2013-15" hefyd yn dweud fod dros hanner siaradwyr yr iaith bellach yn ei dysgu yn yr ysgol.
Cynnydd
Mae dros 356,000 o bobl bellach yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl, o'i gymharu â thua 225,000 yn yr adroddiad diwethaf yn 2004-06.
Bu cynnydd bach hefyd yn y nifer o siaradwyr rhugl o 1,600 i 318,800.
Mae 53% yn dweud eu bod yn siarad yr iaith bod dydd. Dydi'r ffigwr hwn heb newid ar y cyfan, ond mae wedi disgyn yn yr ardaloedd ble mae'r crynodiad uchaf o siaradwyr - Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Daw hyn wedi i'r cyfrifiad diwethaf ddangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith.
Caerdydd a'r cymoedd welodd y cynnydd mwyaf o siaradwyr rhugl, gyda 7,000 yn fwy yn y brifddinas, a 5,000 yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu mai yn yr ysgol mae dros hanner y siaradwyr - 51% - yn dysgu'r iaith, o'i gymharu â 43% sy'n ei dysgu gartref fel plentyn.
Dywed yr adroddiad fod dros hanner yn defnyddio'r iaith yn achlysurol o leiaf wrth ddelio â chyrff cyhoeddus.
'Adeg hollbwysig'
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei bod yn "adeg hollbwysig" i'r iaith.
"Mae'n hanfodol bod pobl yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a magu hyder, a hynny mewn addysg, yn y gweithle neu'n gymdeithasol," meddai Carwyn Jones.
"Mae llawer iawn o waith da eisoes yn mynd rhagddo ar draws Cymru sy'n atgyfnerthu ein gweledigaeth o ganolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o'r iaith a nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Drwy gydweithio gallwn adeiladu ar hyn a sicrhau iaith fyw, heddiw ac ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod yr adolygiad "yn tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n parhau o ran gallu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg".
Ychwanegodd Meri Huws: "Hyderaf y bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol i'r ystod o sefydliadau, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru, ac unigolion eraill sy'n gyfrifol am gynllunio a gweithredu ar gyfer y Gymraeg."