S4C yn erbyn y byd

  • Cyhoeddwyd
S4cFfynhonnell y llun, S4c

Ar 25 Tachwedd cyhoeddodd y Canghellor George Osborne doriad pellach i gyllid S4C. Faint o ergyd fydd hyn i'r sianel a beth yw'r goblygiadau?

Dr Jamie Medhurst, Uwch Ddarlithydd yn Hanes a Pholisi'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth,sy'n rhannu ei safbwynt gyda Cymru Fyw am y sefyllfa:

'Pwysau aruthrol'

Mae cyhoeddiad y Canghellor y bydd angen i S4C arbed £1.7m erbyn 2020 yn ergyd arall i'r darlledwr ac i ddarlledu yng Nghymru. Ers 2010 mae S4C wedi gweld gostyngiad o 36% yn ei incwm a nawr, gyda chyfraniad yr Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Celfyddydau i S4C yn mynd o £6.7m i £5m y flwyddyn, mae pwysau aruthrol ar y sianel.

Mae angen gweld y toriad hwn yng nghyllideb S4C yng nghyd-destun cyhoeddiad y Llywodraeth ddydd Llun (deuddydd cyn yr Adolygiad Gwariant) ei bod yn gwneud tro pedol yn ei phenderfyniad yn 2010 i orfodi'r BBC i ariannu Gwasanaeth y Byd ('World Service') y Gorfforaeth.

O hyn allan fe fydd y Llywodraeth yn rhoi £85m tuag at gostau ehangu'r ddarpariaeth i Ogledd Corea, Ethiopia a Rwsia ymhlith gwledydd eraill. Mae'n debyg bod hwn yn rhan o amcan y BBC i gyrraedd hanner biliwn o bobl a "chynnal democratiaeth byd-eang" erbyn 2022.

Disgrifiad o’r llun,
Dr Jamie Medhurst

Daeth y cyhoeddiad yn nogfen y 'National Security Strategy and Strategic Defence and Security Review' sy'n codi'r cwestiwn onid oes rhyw dinc ymerodraethol yma? Defnyddio'r BBC fel rhan o strategaeth grym meddal ('soft power') yn erbyn gwladwriaethau nad ydynt o reidrwydd ar restr cardiau Nadolig y Prif Weinidog?

Yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd, fe gyfeiriodd y cylchgrawn 'Picture Post' at "The Ministry of Information and its close relative the BBC". Nid mod i'n awgrymu bod peryg bydd y BBC yn cael ei ddefnyddio fel arf propaganda, ond…

Ar yr un pryd, mae'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd yn gorfod tocio, torri a gwylio'r ceiniogau.

Does dim amheuaeth y bydd y toriad pellach yn golygu bydd effaith ar yr hyn gall S4C gyflawni o safbwynt darparu gwasanaeth cyflawn i wylwyr Cymraeg.

Mae'r angen i gael canlyniad positif wrth drafod adnewyddu Siartr y BBC (gan gofio bod 90% o incwm S4C bellach yn dod o'r ffi drwydded) yn hollbwysig bellach ac os bydd angen i S4C wneud toriadau pellach o ganlyniad i doriadau disgwyliedig o fewn y BBC yna gall fod yn sefyllfa argyfyngus ar y sianel.