Llyn y Felin: Pryder crwner
- Cyhoeddwyd

Mae crwner Sir Benfro, Mark Layton, yn bwriadu ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i fynegi pryder am ddiogelwch o gwmpas Llyn y Felin ym Mhenfro, ar ôl i dri pherson foddi yno eleni.
Fe fydd Mr Layton yn cyflwyno adroddiad "Cymal 28" i'r awdurdod lleol ar ôl penderfynu bod Robert Mansfield wedi boddi yn y llyn tra ar noswaith allan i ddathlu ei ben-blwydd yn 18 oed.
Dywedodd Mr Layton wrth y llys ei fod yn "bryderus am y nifer o farwolaethau yn Llyn y Felin" a bod gan deulu Mr Mansfield "bryderon teg a chyfiawn".
Ychwanegodd ei fod yn mynd i ddefnyddio ei bwerau i gyflwyno adroddiad i'r cyngor. Mae'n bwriadu codi'r cwestiwn a oes digon o ffens o gwmpas y llyn ynghyd â goleuadau ac adnoddau achub bywyd.
Mae gan Gyngor Sir Penfro 56 diwrnod i ymateb.
Mae'r awdurdod wedi dweud wrth y crwner bod yna fwriad i wella arwyddion o gwmpas y llyn ynghyd â darparu dyfais ychwanegol i achub bywyd ger y morglawdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd27 Awst 2015