BBC Cymru Fyw

Dyn o Ffestiniog yn euog o ymosod ar ei gymydog â rhaw

Published
image copyrightGoogle
Mae dyn o Lan Ffestiniog yn wynebu carchar ar ôl ymosod ar ei gymydog gyda rhaw mewn ffrae am barcio.
Fe wnaeth y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddyfarnu bod David Leavers, 71 oed, yn euog o anafu David Hughes, 51 oed, gyda mwyafrif o 10 i 2.
Fe'i gafwyd yn euog hefyd o niweidio car Mr Hughes.
Cafodd Mr Hughes anafiadau difrifol i'w ddwylo yn ystod yr ymosodiad.
Bydd Leavers yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 17 Rhagfyr.