BBC Cymru Fyw

Gwobrwyo pensaer am ei waith

Published
image copyrightCharles Hosea
image captionStormy Castle yn Llanmadog, Penrhyn Gŵyr gafodd ei gynllunio gan Chris Loyn
Mae gwobr bensaernïol Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas 2015 wedi ei hennill gan Chris Loyn.
Dyfarnodd y beirniad fod ei dri tŷ, ym Mhenrhyn Gŵyr, Dinas Powys a Llysfaen, Caerdydd, wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i bensaernïaeth Gymreig dros y tair blynedd diwethaf.
Roedd yna ganmol hefyd i ddylanwad ei adeiladau, y defnydd o bensaernïaeth fodern a'i ymroddiad i annog penseiri ifanc.
Mae gwobr Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn cael ei chynnal bob tair blynedd.
Hwn yw'r pumed gwaith i'r wobr gael ei chyflwyno, gyda'r cyntaf yn 2003 yn cael ei hennill gan Tŷ Gwydr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.
Eleni roedd y seremoni yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Crefftau Rhuthun.