Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

  • Cyhoeddwyd
A4048Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4048 ym mhentref Markham ger y Coed Duon

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 70 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili ddydd Iau.

Roedd Mavis Lemin yn teithio mewn car Volvo S40 pan fu mewn gwrthdrawiad â char Toyota Yaris ar yr A4048 ym mhentref Markham ger y Coed Duon am tua 10:30.

Mae'r dyn oedd yn gyrru'r Volvo yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty, tra bo'r ddwy ddynes oedd yn y Toyota yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod, ac mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw dystion i ffonio 101.