Trwy Fy Llygaid i: Tachwedd
- Cyhoeddwyd

Gyda'r Nadolig yna agosáu mae'n siŵr bod nifer fawr ohonoch chi yn paratoi yn barod am y gwledda. Ond faint ohonoch chi sydd wedi stopio i ystyried faint o waith sydd yn digwydd i wneud yn siŵr bod y cynnyrch ar eich plât o'r radd flaenaf?
Yn ystod mis Tachwedd, penderfynodd ein ffotograffydd gwadd, Betsan Evans o Celf Calon, roi sylw i fferm lysiau ar Benrhyn Gŵyr. Mi soniodd Betsan ragor wrth Cymru Fyw pam y penderfynodd hi ddilyn y prosiect hwn:
O'r cae i'r siop
Nadolig 2014 roeddwn i eisiau coginio cino Nadolig i fy rhieni yn ein cegin newydd. Rwyf wrth fy modd yn coginio ac yn cael pleser mawr yn gweld fy nheulu a ffrindiau yn joio fy mwyd. Hefyd, mae coginio fel therapi ac yn ffordd dda o ymlacio ar ôl naill ai bod mas yn tynnu lluniau trwy'r dydd neu bod o flaen y cyfrifiadur yn golygu a dylunio.
Ta beth yn ôl i'r stori... Penderfynais fy mod i ddim eisiau prynu llysiau a frwythau o'r archfarchnad oherwydd fi wedi cael llond bola o safon y cynnyrch.
Yn y pentref nesa i ni, sef Gorseinon, mae yna siop leol sy'n gwerthu llysiau a ffrwythau ac mae llawer o'r cynnyrch yn dod o'i fferm yn y Gŵyr. Roeddwn i wedi taro'r jacpot pan nes i ddod o hyd i'r siop! Roeddwn i wrth fy modd, siopa mewn siop leol ond 10 munud o'r tŷ ac yn gwybod yn union o le mae'r llysiau wedi dod.
Gan bod mis Tachwedd yn fis tywyll a diflas yn arferol, doedden i ddim eisiau dilyn thema tywyll gan bod angen codi ag ysbrydoli calonnau cyn y Nadolig. Felly gofynnais i'r ddwy chwaer sydd yn rhedeg y siop os allen i dreulio diwrnod yn eu cwmni i weld sut mae'r llysiau yn cael eu pigo ac yna eu gosod yn y siop. Taith y llysiau o'r cae i'r siop!
Felly dyma gyfres o luniau sy'n dangos y gwaith caled sydd yn mynd i mewn i dyfu a gwerthu llysiau lleol.
Dyma un o'r profiadau gorau dwi wedi cael fel ffotograffydd, dwi mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle. Braint bu gweld y gwaith caled sy'n mynd mewn i gynhyrchu llysiau sydd wedi gwneud i mi werthfawrogi a defnyddio cynnyrch lleol hyd yn oed yn fwy nag oeddwn i o'r blaen!
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r lluniau.