Chwilog yn Neuadd Albert

  • Cyhoeddwyd
albert
Disgrifiad o’r llun,
Neuadd Albert yn barod am noson wefreiddiol o gerddoriaeth 'Music For Youth'

Roedd nos Fercher 25 Tachwedd yn noson fawr i Gôr Aelwyd Chwilog wrth iddyn nhw berfformio ym Mhrom Music for Youth yn Neuadd Albert yn Llundain. Mae Lois a Gwenlli, dwy o aelodau'r côr, wedi rhannu eu profiadau gyda Cymru Fyw:

Disgrifiad o’r llun,
Dyma ni wedi cyrraedd Llundain am tua 11am ac yn eistedd yng ngorsaf Euston yn bwyta ein cinio cyn dal y bws i'r Albert Hall. Golwg wedi blino mawr arnom!
Disgrifiad o’r llun,
Ein hystafell newid - roedden ni'n teimlo'n bwysig iawn!
Disgrifiad o’r llun,
Dyma Lois, Gwenlli a Mali wedi gwneud eu hunain yn barod ac yn aros i gael eu galw i'r llwyfan.
Disgrifiad o’r llun,
Llun slei a dynodd Lois o'r cyflwynydd yn ystod y cyngerdd. Does ganddon ni ddim syniad pwy oedd o, ond mi oedd o'n gwneud ei swydd yn dda iawn (heblaw am ynganu enw'r côr)!
Disgrifiad o’r llun,
Dyma lun o rai o aelodau hynaf y côr gyda'n harweinydd Pat Jones wedi i ni ganu ar y llwyfan.
Disgrifiad o’r llun,
Finale'r cyngerdd! Balŵns ym mhob man!
Disgrifiad o’r llun,
Mae canu'n codi archwaeth! Gwledd mewn bwyty yn Covent Garden i goroni noson gofiadwy.