'Angen mwy o gwmnïau peirianyddol yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Tyrbein wyntFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Gallai mwy o gwmnïau arwain at brosiectau uchelgeisiol

Mae dirprwy ganghellor ysgol gwyddorau ffisegol Prifysgol Caerdydd wedi galw ar i fwy o gwmnïau peirianneg, sy'n arbenigo mewn uwch dechnoleg, gael eu sefydlu yng Nghymru er mwyn denu a chadw peirianwyr, yn enwedig menywod.

Fe ddywedodd Yr Athro Karen Holford wrth raglen Eye On Wales BBC Cymru: "Mae nifer o'r cwmnïau mawr â'u canolfannau ymchwil a datblygu rywle arall, a dwi'n meddwl bod hynny yn broblem fawr ... Bydden ni'n croesawu mwy o swyddi arbenigol a datblygu yng Nghymru."

Yn ddiweddar fe gafodd ei phenodi'n gymrawd yr Academi Brenhinol Peirianyddol - un o`r anrhydeddau uchaf yn y proffesiwn.

Ond does yna ddim llawer o fenywod yn y maes.

Yn y DU Cymru sydd â'r nifer isaf o beirianwyr siartredig, dim ond 5.6% o'i gymharu gyda 5.9% yn Lloegr, a 6% yn yr Alban, yn ol ffigyrau Engineering UK.

Ffigurau'n isel

Mae'r ffigurau yma yn isel o'u cymharu gyda rhai o wledydd Ewrop, fel Sweden.

Ond mae'n broblem sy'n cael sylw Llywodraeth Cymru wrth i Julie Williams, y prif ymgynghorydd gwyddonol, gomisiynu adroddiad anibynnol i fenywod sydd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg uwch a mathemateg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y gwaith ymchwil yn ystyried pam bod merched a menywod yn cael eu tangynrychioli yn y meysydd hyn ac yn ystyried beth y gellid ei wneud i`w hannog a'u cefnogi i chwilio am gyfleon, yn ogystal ag edrych ar sut y gall gwahanol sefydliadau yng Nghymru helpu newid y sefyllfa."

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Mae'r Athro Holford wedi dweud: "Rydyn ni'n gwastraffu talentau os na ewn ni i'r afael â hyn.

"Mae peirianneg yn un o'r diwydiannau sy'n gallu creu swyddi a thwf yn y wlad.

"Felly mae'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn, a'n bod yn cael y peirianwyr gorau a'r peirianwyr mwya talentog yn gweithio ac aros yng Nghymru."