Dedfrydu bachgen ysgol am ddynladdiad pensiynwr
- Cyhoeddwyd

Mae bachgen ysgol, drywanodd bensiynwr i farwolaeth, wedi cael dedfryd o dair blynedd.
Fe ymosododd y llanc 16 oed ar Michael Harrington, 67, yn ei gartref gyda chyllell, gan ei drywanu ddwywaith yn ei glust a'i wddf.
Roedd yn amau bod y pensiynwr wedi cam-drin merch yn rhywiol.
Cafodd Llys y Goron Caerdydd y bachgen yn euog o ddynladdiad. Does dim modd ei enwi am resymau cyfreithiol.
Dywedodd y barnwr, Mrs Ustus Nicola Davies, fod y digwyddiad yn drasiedi i'r bachgen ifanc a'i deulu ac yn rhywbeth y byddai'n rhaid iddo fyw ag e am weddill ei oes.
'Dim hawl'
"Mae ganddoch chi gymeriad da ac mi roeddech wir yn credu bod y dyn yma wedi cam-drin yn rhywiol," meddai.
"Ond fe gymeroch y gyfraith i'ch dwylo eich hun a does gan neb hawl i wneud hynny.
"Mae'r drosedd mor ddifrifol fel bod modd cyfiawnhau y ddedfryd hon."
Dywedodd ei fam wrth y llys bod ei mab yn "hyfryd, doniol, tawel a gofalgar".
Y bachgen oedd y "brawd gorau erioed," meddai ei chwaer.
Clywodd y llys nad oedd cwyn swyddogol yn erbyn Mr Harrington fu farw bedwar diwrnod ar ôl yr ymosodiad.