Tad yn gwadu llofruddio ei fab dau fis oed
- Cyhoeddwyd

Mae tad wedi gwadu llofruddio ei fab dau fis oed.
Mae Sean Michael Mullender, 22 oed o Gei Connah, Sir y Fflint, wedi ei gyhuddo o ladd Daniel John Mullender yn Hydref 2014.
Fe wnaeth ymddangos ar gyswllt fideo o Lys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
Bydd yr achos yn dechrau ym mis Ebrill 2016.