Cwest i farwolaeth merch: Rheithfarn o hunanladdiad
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn o hunanladdiad yn achos merch 15 oed wedi iddi gymryd meddyginiaeth ei thad.
Bu farw Laura Newlands o'r Rhyl ar 8 Awst 2011 yn ei chartref.
Dywedodd y crwner, John Gittins, fod problemau o fewn y teulu, ei mam yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a'i thad yn gor-yfed.
Roedd Ms Newlands yn gofalu am ei rhieni ac yn "teimlo mwy o gyfrifoldeb wrth fynd yn hŷn," ychwanegodd.
Parodd y gwrandawiad am bum diwrnod yn Rhuthun.
'Bwlio'
Gan gyfeirio at broblemau bwlio yn ei hysgol, dywedodd y crwner bod staff Ysgol Uwchradd Rhyl wedi bod yn "hynod o gefnogol".
Fe dreuliodd Ms Newlands bum diwrnod yn yr ysbyty ym mis Mai 2011 a soniodd am ladd ei hun.
Fe gafodd ei rhyddhau i ofal perthnasau yn Doncaster ond ni chafon nhw wybod am ei bygythiad i roi terfyn ar ei bywyd pe bai hi'n gorfod mynd yn ôl i'r Rhyl.
Ni chafodd ei rhieni wybod hynny chwaith.
Fe aeth hi yn ôl i'r Rhyl yn wirfoddol i ddathlu pen-blwydd ei brawd, gan aros yno cyn rhoi terfyn ar ei bywyd.
Canfyddiadau
Dywedodd y crwner y byddai'n ysgrifennu at Gyngor Sir Ddinbych ynghylch y digwyddiad oherwydd dau fater.
Yn gyntaf, ynghylch penderfyniad y gwasanaethau i gau achos Ms Newlands pan aeth i Doncaster.
Yn ail, bod oedi wrth geisio trefnu cyfarfod i drafod ei sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych y byddai'r awdurdod yn ystyried canfyddiadau'r crwner, gan geisio mynd i'r afael â'i bryderon.
Mae'r teulu wed gofyn i gyfreithwyr ymchwilio i ofal Ms Newlands.