Mwy na £10,000: Dynes o Benrhyndeudraeth yn euog o dwyllo
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Benrhyndeudraeth yn euog o hawlio budd-daliadau gwerth dros £10,000 drwy dwyll.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Leanne Cutts yn byw gyda'i gŵr ond yn hawlio budd-daliadau tai, incwm a threth cyngor am ei bod yn honni ei bod yn fam sengl.
Cafodd ddedfryd o 20 wythnos o garchar wedi'i gohirio am 18 mis. Bydd rhaid iddi hefyd wneud 100 awr o waith di-dâl.
Clywodd y rheithgor ei bod hi'n hawlio'r budd-daliadau rhwng Mehefin 2011 ac Ebrill 2014.