Atal taliadau coleg preifat yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi atal taliadau i goleg preifat yng Nghaerdydd ar ôl i ymchwiliad rhaglen Week In Week Out BBC Cymru gyfeirio at honiadau o dwyll.
Taliadau i'r West London Vocational Training College, sydd â champws newydd yng Nghaerdydd, sy' wedi dod i ben.
Hefyd mae taliadau i fyfyrwyr wedi'u hatal.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis nad oedd ymchwiliadau Pearson UK a Chyllid Myfyrwyr Cymru yn gynharach eleni wedi codi unrhyw amheuon.
Ond mewn datganiad heno dywedodd fod honiadau fod "un neu fwy o unigolion o fewn y coleg" wedi cynllwynio i dwyllo drwy "ffugio cofnodion academaidd a chofnodion presenoldeb yn y coleg."
'Heddlu'
"Rwy'n disgwyl y bydd unrhyw honiadau o droseddau yn cael eu cyfeirio i'r heddlu fel bod ymchwiliad trylwyr," meddai.
Dywedodd cyflwynydd y rhaglen Tim Rogers eu bod wedi ymchwilio i sut yr oedd asiant yn recriwtio myfyrwyr.
Yn y coleg, meddai, roedd cyrsiau Technoleg Gwybodaeth a busnes ac roedd yn gymwys i ddarparu cyrsiau Diploma Cenedlaethol Uwch allai olygu ffi o £6,000.
Dywedodd y cyflwynydd fod myfyrwyr wedi cael gwybod bod modd defnyddio dogfennau ffug wrth hawlio grantiau neu fenthyciadau.
Mae'r coleg wedi dweud nad ydyn nhw'n gwybod am unrhyw dwyll.