Carchar i ddau frawd am fandaleiddio chwarel

Ryan a Jay Sterling
Image caption Ryan Sterling (chwith) a Jay Sterling oedd yn euog.

Mae dau frawd wedi cael eu dedfrydu i 15 mis o garchar am fandaleiddio chwarel ger Llangollen.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Ryan Sterling, 30 oed, a'i frawd Jay, 20 oed, wedi rhoi peiriant cloddio a hen garafán ar dân yn Chwarel y Berwyn ger Bwlch yr Oernant.

Fe wnaeth y brodyr o Bebington, Cilgwri, hefyd wthio peiriant cloddio bach dros ddibyn. Roedd y difrod werth miloedd o bunnau.

Roedd y ddau wedi gwadu cyhuddiadau o losgi bwriadol ac achosi difrod troseddol, ond fe wnaeth Llys y Goron yr Wyddgrug eu cael yn euog.

Cafodd Stuart Curtis, 28 oed o New Brighton, a blediodd yn euog i losgi'r garafán, ei ddedfrydu i bum mis o garchar wedi'i ohirio a'i orfodi i weithio am 100 awr yn ddi-dâl.