Achub dynes o afon Wysg
- Cyhoeddwyd

Cafodd dynes oedrannus ei chludo i'r ysbyty ar ôl iddi gael ei hachub o afon Wysg yng nghanol Casnewydd nos Wener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Kingsway tua 20:20 ar ôl adroddiadau fod dynes yn yr afon.
Fe wnaeth uned arbennig o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gynnwys cychod, gael eu hanfon o Falpas.
Yno hefyd roedd diffoddwyr o Faendy a Dyffryn, ynghyd â gwylwyr y glannau, yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, am 20:45.
Does yna ddim manylion am ei chyflwr.