Anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi eu hanafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heritage Way yn ardal Tanyfron o'r dref am tua 21:45 nos Wener.
Fe gafodd teithiwr mewn car Ford Fiesta du ei gludo i ysbyty yn Stoke, lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol, ac fe gafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Fe ddioddefodd gyrrwr car Audi fân anafiadau yn y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth a all fod o gymorth, i gysylltu â nhw.