Caerdydd 2-2 Burnley
- Cyhoeddwyd

Caerdydd 2-2 Burnley
Fe lwyddodd Burnley i ddod yn ôl, pan oeddynt ddwy gôl ar ei hôl hi yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.
Fe roddodd peniad gan Aron Gunnarsson, Caerdydd ar y blaen yn ystod yr hanner cyntaf, cyn i Sean Morrison ddyblu'r fantais ugain munud wedi'r egwyl.
Ond fe darodd Rouwen Henning y bêl i gefn rhwyd Caerdydd gyda phum munud o'r gêm yn weddill, a phan roddodd Matt Connolly y bêl yn rhwyd ei hun yn ystod amser ychwanegol, fe gollodd Caerdydd y cyfle i sicrhau'r tri phwynt.
Mae Caerdydd yn parhau yn y degfed safle yn y Bencampwriaeth , tra bod Burnley yn parhau i fod yn bumed.