Casnewydd 3-0 Luton
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 3-0 Luton
Fe sgoriodd Oliver McBurnie dair gôl yn ei ymddangosiad cyntaf, a sicrhau'r fuddugoliaeth gartref gyntaf i Gasnewydd.
Fe ddaeth y gôl gyntaf i'r ymosodwr 19 oed, sydd ar fenthyg o Abertawe, a ymunodd â Chasnewydd ddydd Iau, bum munud ar ôl iddo ddod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner.
Daeth ei ail gôl ar ôl i ymgais gan Alex Rodman fethu, a'r drydedd ar ôl camgymeriad gan golgeidwad Luton, Mark Tyler .
Mae Casnewydd yn codi saith pwynt yn glir o waelod y gynghrair, tra bod Luton yn disgyn i'r i 13eg safle.