Wrecsam 2-3 Macclesfield
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 2-3 Macclesfield
Gyda Wrecsam yn mynd am eu pumed buddugoliaeth yn olynol, Macclesfield adawodd y Cae Ras gyda'u pedwaredd buddugoliaeth yn olynol iddyn nhw.
Roedd y ddau dîm yn haeddu clod am safon y chwarae mewn amgylchiadau tywydd difrifol.
Un gôl yr un oedd hi ar yr egwyl, Christian Denis yn rhoi Macclesfield ar y blaen a Connor Jennings yn sgorio i Wrecsam wedi hanner awr.
Fe sgoriodd Dennis ei 17eg gôl o'r tymor ac fe oedd gan yr ymwelwyr ddwy gôl o fantais gyda 20 munud i fynd pan sgoriodd Danny Whitaker, ac er i ergyd hyfryd gan James Grae gynnig gobaith, doedd hi ddim i fod.
Mi all y rheolwr, Gary Mills ddadlau fod y Dreigiau yn haeddu pwynt, ond fe wnaeth yr ymwelwyr ymdopi'n well gyda'r amgylchiadau a gwneud yn fawr o gamgymeriadau Wrecsam.