Gwyntoedd cryfion yn taro Cymru

  • Cyhoeddwyd
tywydd

Mae ardaloedd arfordirol o Gymru wedi gweld gwyntoedd o hyd at 70mya yn chwythu ddydd Sul.

Mae rhybudd melyn i bobl fod yn 'ymwybodol' - mewn grym gan y Swyddfa Dywydd tan 20:00.

Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro, a Phont Britannia ar Ynys Môn ar gau i gerbydau uchel.

Mae'r gwasanaethau fferi o Sir Benfro i Iwerddon wedi cael eu canslo, yn ogystal â llong gyflym Irish Ferries o Ynys Môn.

Fe ddisgwylir glaw trwm hefyd ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth, gyda rhagolygon yn darogan y gall hyd at 80mm o law syrthio mewn 48 awr, yn enwedig dros dir uchel yng ngogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,
Y môr ger Tywyn ddydd Sul