Stephen Kinnock AS eisiau pleidlais rydd ar Syria

  • Cyhoeddwyd
Stephen Kinnock

Mae un o ASau Cymreig mwyaf newydd y blaid Lafur wedi dweud y dylai arweinydd y blaid ganiatáu pleidlais rydd ar y mater o ymosod o'r awyr ar Syria.

Mae'r AS dros Aberafan, Stephen Kinnock, sy'n fab i gyn-arweinydd Llafur - yr Arglwydd Kinnock , wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn gwrthwynebu'r ymosodiadau awyr.

Mae hefyd wedi dweud nad oes gan eu harweinydd, Jeremy Corbyn gefnogaeth holl ASau'r Blaid Lafur ar hyn o bryd."

Fe amlinellodd y Prif Weinidog, David Cameron ei achos dros weithredu ddydd Iau .

Mae gweinidogion Ceidwadol wedi treulio'r penwythnos yn ceisio sicrhau cefnogaeth ASau'r gwrthbleidiau i gefnogi pleidlais ar y mater.

Ond wrth siarad ar raglen y Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Kinnock ei fod yn parhau i fod yn argyhoeddedig nad ymosod o'r awyr yw'r peth iawn i'w wneud.

"Rwy'n gwrthwynebu bomio ISIL a Syria oherwydd nad yw'r prif weinidog wedi llwyddo i'm perswadio fel arall, " meddai.

Ffynhonnell y llun, PA

Dywedodd fod y mater yn un "cymhleth" a bod hynny yn cryfhau'r ddadl dros ei arweinydd i roi pleidlais rydd i ASau Llafur ar y mater.

"Fy safbwynt personol yw, y dylai Jeremy gynnig pleidlais rydd cyn gynted â phosibl ar ôl datganiad y prif weinidog, " ychwanegodd yr AS, a etholwyd yn yr Etholiad Cyffredinol eleni.

Dywedodd y byddai hynny yn galluogi i arweinydd Llafur nodi ei safiad yn erbyn ymyrraeth filwrol yn erbyn yr hyn a elwir yn Wladwriaeth Islamaidd.