Cynllun talebau mewn tref ym Mhowys
- Published
image copyrightTotally Local Hay
Bydd Siopwyr mewn tref ym Mhowys yn gallu talu am nwyddau gan ddefnyddio talebau fel rhan o gynllun i gadw arian yn yr ardal leol.
Bydd talebau'r Gelli Gandryll ar gael yn siopau'r dref sydd wedi cofrestru i'w derbyn.
Gall talebau hefyd gael eu rhoi fel anrhegion, a gellir eu defnyddio yn y ffordd arferol.
Siambr Fasnach y Gelli Gandryll sy'n gyfrifol am y fenter newydd.