Rhybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,
Ffordd dan ddŵr yn Llanrwst

Mae rhybuddion coch am lifogydd mewn grym yng Nghymru, wrth i law trwm ddisgyn dros y wlad ddydd Llun.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi dros 20 o rybuddion melyn i fod yn barod am lifogydd.

Yn y canolbarth, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Afon Wysg yn Aberhonddu tua 18:30 ar ôl adroddiadau fod dynes wedi ei gweld yn y dŵr tua 18:30 nos Lun.

Bu glaw trwm ar draws y rhan fwyaf o'r wlad fore Llun, ac mae disgwyl iddo barhau ddydd Mawrth hefyd.

Mae'r rhybuddion coch mewn grym ar gyfer:

  • Afon Efyrnwy: Ardal Meifod ac ardal Llanymynech;
  • Afon Hafren: Rhwng Dolwen a Llandinam, ardal Abermiwl, Aberbechan, Trewern, Caerhowel a Chaersws;
  • Afon Gwy: Ardal Llanfair-ym-Muallt;
  • Dyffryn Conwy: Ffordd Gwydir rhwng Llanrwst a Threfriw;
  • Dolgellau: Afonydd Mawddach ac Wnion;
  • Dyffryn Dyfi: Pont Dyfi i'r gogledd o Fachynlleth.

Mae'r A458 rhwng Llanfair Caereinion a Llanerfyl ym Mhowys ar gau am fod Afon Banwy wedi gorlifo.

Mae'r A495 ym Meifod hefyd ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd.

Mae adroddiadau fod ffordd y B4518 rhwng Rhaeadr a Chwmystwyth ar gau yn dilyn tirlithriad.

Mae gwasanaethau tren hefyd wedi eu heffeithio yn y canolbarth a gogledd Cymru. Am y diweddaraf ewch i wefan Trenau Arriva Cymru.

Trafferthion

Yng Ngwynedd bu'n rhaid achub person o dŷ yn Aberdyfi yn dilyn llifogydd yn yr adeilad am 16:30.

Bydd Ysgol Gynradd Pentyrch yng Nghaerdydd ar gau ddydd Mawrth yn dilyn 'difrod sylweddol' o achos dŵr.

Yng Nghlawdd Coch, Bro Morgannwg, aeth dau gerbyd a lori i drafferthion mewn tair troedfedd o ddŵr yn gynharach ac fe fu'n rhaid achub y teithwyr o'u cerbydau.

Ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn cynnig cymorth i nifer o bobl mewn digwyddiadau yn ardaloedd Tonyrefail, Gwaelod y Garth, Pencoed a'r Rhath yng Nghaerdydd wedi trafferthion gyda llifogydd lleol.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd caeau dan ddŵr yn ardal Llanuwchllyn fore Llun
Disgrifiad o’r llun,
Roedd tonnau mawr yn taro'r prom yn Aberystwyth fore Llun

Yn ogystal â'r rhybuddion llifogydd, cafodd hen Bont Hafren ei chau ddydd Llun, ac mae cyfyngiadau ar Bont Cleddau a Phont Britannia.

Yng Nghasnewydd, mae rhan o do dau dŷ teras wedi cael eu chwythu i ffwrdd. Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i Cotman Close yn ardal Sain Silian o'r ddinas tua 13:35.

Am y wybodaeth a rhybuddion diweddaraf, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Shem ap Geraint
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Afon Ddyfi ym Machynlleth wedi gorlifo