750 milltir o ffyrdd 'heb signal ffôn' medd yr RAC
- Cyhoeddwyd

Does 'na ddim signal ffôn symudol ar fwy na 750 milltir o ffyrdd mewn rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru - sy'n golygu na all gyrwyr alw am gymorth os ydyn nhw'n torri i lawr neu'n cael damwain.
Yn ôl adroddiad gan Sefydliad yr RAC, mae Powys, Gwynedd a Cheredigion ymysg y 10 ardal waethaf yn y DU.
Un o'r ffyrdd sy'n cael y mwyaf o sylw yw ffordd yr A494, sy'n rhedeg o Wynedd i Loegr.
Yn ôl yr adroddiad, Powys yw'r sir waethaf, gyda 437 milltir (703km) heb signal.
Mae gan Wynedd 172 milltir (277km) o ffordd heb signal, ac mae gan Geredigion 156 milltir (251km).
Dywedodd Steve Gooding, cyfarwyddwr Sefydliad yr RAC: "Mae'r rhan fwyaf ohonom yn hoffi meddwl mai dim ond un galwad ffôn symudol sydd angen i gael cymorth bob amser, ond hyd yn oed mewn gwlad boblog, gyda thechnoleg ddatblygiedig fel Prydain, mae'r realiti dipyn yn wahanol."