Heddlu: £560,000 am wasanaeth na gafodd ddefnydd
- Cyhoeddwyd

Mae wedi dod i'r amlwg fod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwario £560,000 dros ddwy flynedd ar wasanaeth ffôn symudol na gafodd ei ddefnyddio, cyn i neb sylwi ar y camgymeriad.
Fe gafodd manylion am yr arian gafodd ei dalu i'r cwmni ffonau symudol eu hamlygu mewn cyfarfod archwilio, a gafodd ei gynnal ar y cyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Winston Roddick.
Dywedodd Mr Roddick fod camau'n cael eu cymryd i adennill yr arian,
Dywedodd AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar ei fod wedi "synnu gyda'r blerwch."
"Bydd trethdalwyr am wybod sut mae Heddlu Gogledd Cymru wedi colli miloedd o bunnoedd ar wasanaeth nad oedd yn cael ei ddefnyddio," meddai'r AC Ceidwadol.
"Os yw hyn yn golygu bod trethdalwyr lleol wedi talu mwy am wasanaethau'r heddlu nag oedd ei angen, yna mae'n annerbyniol.
"Mae cymryd dwy flynedd i ddarganfod hyn yn dwyn i gwestiwn y broses o archwiliadau mewnol, ac ar adeg pan fod pob ceiniog yn cyfrif."
Mae'r gweithredwr gwasanaeth ffonau wedi dweud wrth yr heddlu ei bod yn debygol "fod rhywbeth o'i le" yn y system, a bod ad-daliadau wedi ei gytuno.
Dywedodd Mr Roddick mewn datganiad: "Rwy'n falch o ddweud bod anghysondeb hwn wedi cael ei godi gan adran ariannol yr heddlu eu hunain, ac mae camau yn cael eu cymryd yn awr i adennill yr arian.
"Roeddwn yn ymwybodol o'r sefyllfa ym mis Medi ac wedi bod yn monitro trafodaethau'r heddlu gyda'u darparwr gwasanaethau ffônau symudol.
"Mae'n tanlinellu'r angen am wyliadwriaeth mewn materion ariannol, yn enwedig pan maent yn cynnwys y pwrs cyhoeddus."
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym mewn trafodaethau gyda'r cwmni dan sylw er mwyn datrys y mater."