Gwrthdrawiad Cas-gwent: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghas-gwent.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd tua 02:30 ddydd Sul ger cyffordd 2 ar yr M48.
Cafodd y dyn, sy'n dod o Gil-y-coed, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ble bu farw o'i anafiadau.
Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.