Cyffur mewn paned: Dyn yn wynebu carchar

  • Cyhoeddwyd
Kevin JohnstoneFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Kevin Johnstone yn meddwl y byddai rhoi'r cyffur yn niod ei gydweithiwr yn "jôc dda"

Mae adeiladwr yn wynebu carchar am roi amffetamin yn niod un o'i gydweithwyr.

Fe wnaeth Kevin Johnstone, 41 oed o Lanelli, roi'r cyffur yn siocled poeth Tony Jones fel "jôc".

Ond cafodd Mr Jones ei gludo i'r ysbyty yn fuan wedyn oherwydd ei fod yn dioddef poenau yn ei galon.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe fod y digwyddiad yn "ddifrifol iawn" ac y dylai Johnstone ddisgwyl dedfryd o garchar.

'Jôc dda'

Clywodd y llys fod Johnstone yn meddwl y byddai gweld ymateb ei gydweithiwr i'r cyffur yn "jôc dda".

Dywedodd yr erlynydd Helen Randall: "Fe gynigiodd wneud paned o siocled poeth iddo tra oedden nhw'n gweithio efo'i gilydd ar yr iard.

"Fe roddodd amffetaminau yn y diod, ei droi a'i roi i Mr Jones.

"Yn fuan ar ôl gorffen ei ddiod, dywedodd Mr Jones ei fod yn teimlo'n sâl a bod ei 'galon yn byrlymu'."

Plediodd Johnstone yn euog i roi amffetaminau'n anghyfreithlon ac yn fwriadol.

'Dim mewn perygl'

Clywodd y llys fod Mr Jones wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ac nad oedd ei fywyd mewn perygl o gwbl.

Ar ran yr amddiffyn, dywedodd James Jenkins: "Jôc aeth o chwith oedd hi.

"Doedd dim bwriad i wneud niwed. Nawr mae e'n sylwi fel pawb arall doedd dim byd doniol am beth wnaeth e."

Dywedodd y barnwr Elwen Evans QC ei fod yn "ddigwyddiad difrifol iawn", ac ychwanegodd fod Johnstone wedi dangos "agwedd wael" wrth ddelio â'r heddlu.

Dywedodd fod dedfryd o garchar yn debygol, a chafodd Johnstone ei gadw yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher.