Gwahardd e-sigarennau: Tystiolaeth yn anghyson

  • Cyhoeddwyd
E sigarennauFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru'n pryderu bod e-sigarennau yn annog rhagor o bobl ifanc i ysmygu

Mae grŵp o Aelodau Cynulliad wedi methu â chefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i wahardd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus.

Roedd y dystiolaeth ar y newid posib yn anghyson, meddai Pwyllgor Iechyd y Cynulliad.

Fe gefnogodd y pum aelod Llafur, David Rees, Alun Davies, John Griffiths, Lynne Neagle a Gwyn Price y gwaharddiad.

Ond roedd y Ceidwadwyr, Atlaf Hussain a Darren Miller yn erbyn, yn ogystal â Lindsay Whittle o Blaid Cymru a Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru ei bod yn cefnogi dull gwahanol o ymdrin â'r mater.

'Gwrthdaro'

"Roedd y dystiolaeth mewn cysylltiad â'r cyfyngiadau arfaethedig ar e-sigaréts yn gwrthdaro ac nid oedd y pwyllgor wedi gallu dod i gytundeb," meddai cadeirydd y pwyllgor, Mr Rees.

Fe fyddai Mesur Iechyd y Cyhoedd y llywodraeth yn gwahardd pobl rhag defnyddio e-sigarennau mewn llefydd fel bwytai, tafarndai ac yn y gwaith.

Does gan Llywodraeth Cymru ddim mwyafrif yn y Senedd felly mae hi angen cefnogaeth un o'r gwrthbleidiau i basio'r bil.