Cwmni hyfforddiant cyfryngau Cyfle i gau
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni sydd yn cynnig hyfforddiant a phrentisiaethau i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cau.
Roedd cwmni Cyfle yn trefnu gweithdai, hyfforddiant a lleoliadau i fyfyrwyr a gweithwyr ym maes y cyfryngau.
Dywedodd ymddiriedolwyr y cwmni y byddai pedair o swyddi yn cael eu colli. Roedd swyddfa'r cwmni ym mhencadlys S4C yng Nghaerdydd, gyda swyddfa arall yng Nghaernarfon.
Roedd cleientiaid y cwmni yn cynnwys aelodau o'r diwydiant teledu a ffilm annibynnol, ynghyd a'r sector addysg uwch.
Ymysg y lleoliadau roedd y cwmni wedi ei drefnu oedd gwaith i unigolion ar set y cynhyrchiad Da Vinci's Demons tra roedd yn cael ei gynhyrchu yn y de.
'Penderfyniad trist'
Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd Cyfle, Gareth Jones:
"Mae'r penderfyniad i gau'r cwmni yn un tu hwnt o anodd, o ystyried yr oll a gyflawnodd y cwmni ers ei sefydlu ym 1986.
"Mae llwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru heddiw yn rhannol ddyledus i effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd gan Cyfle, yn wreiddiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond wedyn yn hollol ddwyieithog.
"Mae hefyd yn benderfyniad trist gan ein bod yn colli pedair swydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd - aelodau staff sydd ag arbenigedd yn y maes ac sydd wedi rhoi gwasanaeth clodwiw a diflino i'r cwmni. Mawr yw ein dyled fel Bwrdd iddynt.'
Prif Weithredwr
Mae BBC Cymru'n deall fod prif weithredwr y cwmni, Sue Jeffries, wedi gadael y cwmni'n gynharach y mis hwn.
Mewn ebost i gleientiaid ar 19 Tachwedd fe gyhoeddodd ei bod yn gadael y cwmni er mwyn sefydlu busnes hyfforddi newydd, gan ychwanegu y byddai "popeth yn mynd yn ei flaen fel arfer" yn Cyfle.
Cafodd Cyfle ei sefydlu yn 1986 i hyfforddi technegwyr mewn ymateb i'r galw cynyddol ar y pryd am weithwyr â sgiliau ers agor S4C yn 1982. Fe wnaeth y cwmni ehangu i gynnig hyfforddiant dwyieithog i weithwyr oedd am ymuno gyda'r cyfryngau a gweithwyr oedd wedi sefydlu gyrfaoedd yn y maes yn barod.