Cwnsler: Angen newid setliad datganoli

  • Cyhoeddwyd
Theodore Huckle
Disgrifiad o’r llun,
Theodore Huckle yw prif gynghorwr cyfreithiol Llywodraeth Cymru

Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi galw am "newidiadau sylweddol" i'r setliad datganoli.

Dywedodd Theodore Huckle nad yw'r model cyfredol o bwerau "prin a chyfyngedig yn rhesymegol a bod cyfyngiadau anacronistig" iddo, sy'n arwain at "ddryswch ynghylch cyfrifoldebau".

Wrth draddodi darlith flynyddol Syr Williams Dale ym Mhrifysgol Llundain, dywedodd Mr Huckle fod yr "anghyfartaledd" o ran y pwerau sydd wedi'u datganoli i wahanol rannau o'r DU yn aml yn "adlewyrchu penderfyniadau gweinyddol a wnaethpwyd cyn belled yn ôl â'r 1960au, a'i bod yn bryd i'r Bil Cymru arfaethedig osod sylfaen newydd ar gyfer y system gyfan".

Dylai hyn gynnwys creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, meddai.

Cynghorwr cyfreithiol

Fel Cwnsler Cyffredinol, Mr Huckle yw prif gynghorwr cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Er nad yw'n weinidog, mae'n aelod o'r Llywodraeth, yn mynychu'r Cabinet ac yn ateb cwestiynau yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd yn traddodi ei ddarlith wedi i Fil Cymru Drafft Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi fis diwethaf.

Dywedodd Mr Huckle yn ei ddarlith: "Mae'r gwahaniaethau rhwng y setliadau mor sylweddol fel bod datganoli yn y DU yn aml yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth anghymesur.

"Ond yn fy meddwl i, mae'r disgrifiad cywir yn fan hyn yn cynnwys mwy nag anghymesuredd yn unig. Mae yma hefyd anomaledd o ran sefyllfa wleidyddol a chyfreithiol Cymru.

"Nid yw'r Bil Cymru Drafft yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r anomaledd. Mewn gwirionedd, ar adegau mae'n ei atgyfnerthu ac yn ei waethygu.

"Mae'r dosbarthiad pwerau datganoledig eisoes yn anghyson, ac mae'r hyn a gynigir yn awr yn golygu rhagor o fetoau a chyfyngiadau, dryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am beth, a chyfyngiadau hyd yn oed ar ddefnyddio mecanweithiau cyfreithiol megis cyfraith sifil a chyfraith trosedd oherwydd diffyg awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

'Problemus a dryslyd'

"Felly nid yw'n syndod fod llawer o bobl yn tybio bod datganoli yng Nghymru yn rhywbeth problemus a dryslyd", ychwanegodd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod nifer fawr o gyfreithiau Cymru sy'n ymdrin â meysydd datganoledig hefyd yn cael effaith ar feysydd sydd heb eu datganoli.

Ychwanegodd na ellid cyfiawnhau'r angen cyson i gael cydsyniad Gweinidogion y DU wrth ddeddfu mewn meysydd datganoledig, a'i fod hefyd yn achosi cymhlethdod ac ansefydlogrwydd.

Roedd Mr Huckle yn galw am setliad mwy sefydlog ar gyfer y tymor hir, ar gyfer Cymru ac ar gyfer y DU gyfan. Roedd hefyd yn galw am ddatganoli "pwerau digonol i roi system lywodraethu effeithiol" i bobl Cymru.

Dywedodd: "Mae angen rhagor o bwerau i wneud y system yn fwy rhesymegol ac i alluogi ein sefydliadau i wneud eu gwaith yn effeithiol."