Fisa: Adre mewn pryd i'r briodas

  • Cyhoeddwyd
Lliwen a GarethFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Lliwen a Gareth ar ddiwrnod eu priodas yn Iwerddon.

Mae merch o Lanuwchllyn gafodd ei gorfodi i briodi yn Iwerddon am nad oedd ei gŵr yn medru cael fisa Prydeinig wedi medru symud nôl i Gymru o'r diwedd.

Roedd Lliwen Macrae wedi gobeithio priodi Gareth, 30 oed o Seland Newydd, yng Nghymru ym mis Gorffennaf, ond gwrthododd yr awdurdodau yr hawl i Mr MacRae gael aros yn y wlad.

Er mwyn iddyn nhw allu byw gyda'i gilydd, penderfynodd y ddau symud i Tipperary yn Iwerddon, ar ôl i Gareth gael fisa yno.

Priododd y ddau mewn seremoni dawel yn nhre Nenagh yn Tipperary ar 9 Hydref.

Ond yna bythefnos yn ôl fe gafodd Gareth glywed ei fod wedi llwyddo i gael fisa gyda chais newydd. Penderfynodd Gareth a Lliwen beidio dweud wrth y teulu yng Nghymru er mwyn rhoi syrpreis iddyn nhw.

Priodas arall

Dywedodd Lliwen wrth BBC Cymru Fyw: "Roedd rhaid i mi weithio 'notice' efo fy ngwaith yn Iwerddon, felly doedden ni ddim yn gallu symud nôl i Gymru yn syth.

"Gan fod fy chwaer fach Carmel yn priodi y penwythnos yma, a finnau'n forwyn briodas iddi, roedd pawb yn gwybod mod i'n dod yn ôl beth bynnag.

"Ond er mod i'n un ofnadwy am gadw cyfrinach, fe nes i lwyddo i beidio rhoi'r newyddion i'r teulu... fe wnaeth Gareth a finnau gyrraedd Caergybi nos Wener a gyrru adre.

"Roedd 'nhad a gweithwyr y fferm ar y buarth yn barod i fynd adre pan welson nhw fy nghar i, ac roeddech chi'n gweld nhw'n meddwl 'Argol mae hon adre'n fuan', ond wedyn fe welson nhw Gareth hefo fi ac roedd yna waeddi mawr.

"Yn lwcus doedd neb yn Bala wedi gweld y car yn gyrru drwy'r dre yn y tywyllwch, felly roedd hi'n ras i fynd i weld pawb i roi'r newyddion da."

Bydd gan y teulu cyfan gyfle i ddathlu gyda'i gilydd ym mhriodas Carmel felly!