Canolfan Pontioym Mangor i ddangos ei ffilm gyntaf

Sinema Pontio
Image caption Bydd Prifysgol Bangor hefyd yn gallu defnyddio sinema 3D Pontio fel darlithfa

Mae canolfan gelfyddydau ac arloesi newydd Pontio ym Mangor yn dangos ei ffilm gyntaf ddydd Mawrth.

Cafodd diwrnod croeso ar gyfer yr adeilad ei gynnal ddydd Sadwrn, a nos Fawrth, mae'r ganolfan yn dangos y ffilm Steve Jobs, ffilm wedi ei chyfarwyddo gan Danny Boyle a raddiodd o Brifysgol Bangor.

Mae'r adeilad ar hen safle Theatr Gwynedd, a gafodd ei ddymchwel er mwyn codi'r ganolfan newydd.

Roedd y ganolfan - sy'n rhan o Brifysgol Bangor - i fod i agor yn wreiddiol ym Medi 2014.

Yn 2010, yr amcangyfrif o gost y cynllun oedd £37m, ond ers hynny mae costau ychwanegol wedi gwthio'r cyfanswm dros £49m.

Mae tua thri chwarter y gyllideb wedi dod o arian cyhoeddus, yn cynnwys gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.