Gwasanaethau brys yn chwilio afon am berson ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio'r Afon Wysg yn Aberhonddu ar ôl adroddiadau fod dynes wedi ei gweld yn y dŵr tua 18:30 nos Lun.
Cafodd criwiau o ddiffoddwyr eu galw o Aberhonddu, Talgarth a Chrughywel, ynghyd â thîm arbenigol o Abertawe.
Mae Tîm Achub Mynydd a hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn cynorthwyo'r chwilio.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd yn bresennol.
Dywed yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau yn gynharach yn y dydd fod dynes 51 oed ar goll o'i chartref yn Aberhonddu.