Arweinydd gwadd newydd o China

  • Cyhoeddwyd
Xian ZhangFfynhonnell y llun, B Ealovega
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Xian Zhang yn dechrau ar y swydd ym Medi 2016

Mae Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC wedi cyhoeddi bod Xian Zhang wedi cael ei phenodi yn brif arweinydd gwadd am gyfnod o dair blynedd.

Bydd yn dechrau ar y swydd ar 1 Medi, 2016.

Fe fydd yn gyfrifol am arwain y gerddorfa mewn cyngherddau blynyddol yn Neuadd Hoddinott y BBC, Neuadd Dewi Sant a Neuadd y Brangwyn yn Abertawe gan gynnwys gweithiau gan Tchaikovsky, Shostakovich, Rimsky Korsakov a Berlioz yn ei thymor cyntaf.

Fe fydd y gerddorfa hefyd yn perfformio yng nghyngherddau Proms y BBC yn ystod ei chyfnod gyda'r baton, ac yn cynnal taith o amgylch Cymru.

Hi fydd yr arweinydd benywaidd cyntaf i gael ei chyflogi gan un o gerddorfeydd y BBC.

'Blwyddyn aruthrol'

Dywedodd Xian Zhang: "Mae Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn griw gwych o gerddorion ac yn dîm naturiol.

"Wrth weithio gyda nhw o'r blaen yn achlysurol, mae ganddyn nhw nodweddion eithriadol. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas."

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae'r gerddorfa wedi cael blwyddyn aruthrol, ac yn goron ar y cyfan rydym nawr yn gwneud y cyhoeddiad cyffrous yma.

"Rwy'n hyderus y bydd cyfraniad Xian, ochr yn ochr â'r prif arweinydd Thomas Søndergård, yn sicrhau llawer mwy o nosweithiau cofiadwy yn y tymhorau i ddod."

Wedi'i geni yn Dandong, China, daeth Xian Zhang i amlygrwydd wrth arwain 'The Marriage of Figaro' yn Nhŷ Opera Beijing pan oedd ond yn 20 oed.

Ar ôl graddio o'r Beijing Central Conservatory fe symudodd i'r Unol Daleithiau yn 1998 cyn cael ei phenodi'n arweinydd cynorthwyol i Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 2002.

Ers 2009 bu'n gyfarwyddwr cerdd Orchestra Sinfonica di Milano Giuseppe Verdi yn Yr Eidal.