Dim cwest i farwolaeth jihadydd
- Cyhoeddwyd

Ni fydd cwest yn cael ei gynnal i farwolaeth jihadydd o Gaerdydd a laddwyd gan awyren ddibeilot yn Syria, medd llywodraeth y DU.
Bu farw Reyaad Khan, 21 oed, ym mis Awst yn yr achos cyntaf erioed o ymosodiad drôn y DU ar ddinesydd o Brydain.
Wrth alw am gwest i'w farwolaeth, dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan bod marc cwestiwn dros gyfreithlondeb ei ladd.
Ond mynnodd y Gweinidog Amddiffyn Penny Mordaunt nad oedd yr achos o fewn awdurdodaeth crwner.
Yn ystod dadl yn San Steffan am y defnydd o awyrennau dibeilot, fe wnaeth Mr Brennan gydnabod bod IS yn fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y DU.
Ond ychwanegodd bod "amheuon anodd dros ben am foesoldeb a chyfreithlondeb" llywodraeth y DU yn defnyddio drôn i ladd dinesydd o'r DU mewn gwlad nad oedd mewn rhyfel â nhw yn dechnegol.
Dywedodd ei fod yn credu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi paratoi'r hyn oedd gyfystyr â rhestr "wedi'i awdurdodi" o ddinasyddion Prydain allai gael eu targedu.
Wrth ateb dywedodd Ms Mordaunt mai "taro gydag awyrennanu dibeilot" oedd y peth iawn i wneud pan bod bygythiad pendant nad oedd modd i'r DU ei rwystro, a phan nad oedd dewis arall.
"Cwest neu ymchwiliad gan grwner... nid hynny fydd yn digwydd," meddai, gan ychwanegu y byddai datgelu manylion ymosodiad o'r fath yn rhoi mantais i'r gelyn.
Straeon perthnasol
- 27 Tachwedd 2015
- 15 Tachwedd 2015
- 8 Medi 2015