Ysgolion gwledig 'angen rhagor o fuddsoddiad'
- Published
Mae rhieni a disgyblion wedi cyflwyno deiseb i weinidogion y Cynulliad, yn galw am ragor o fuddsoddiad i ysgolion gwledig "sydd dan fygythiad".
Oherwydd niferoedd disgyblion a phwysau ariannol, mae tua 120 o ysgolion wedi cau, a'r rhan fwyaf o'r rheiny yn Sir Gâr, Ceredigion a Phowys.
Mae'r ddeiseb - ag arni 1,000 o lofnodion - yn galw ar weinidogion Cymru i ymchwilio i'r heriau sy'n wynebu addysg wledig.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.