Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr M48 yng Nghas-gwent ar 29 Tachwedd.
Roedd Alexander Keningale yn 61 oed ac yn dod o Forfa Gwent.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 02:25 ger cyffordd 2 yr M48. Cafodd Mr Keningale ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw o'i anafiadau'n ddiweddarach.
Mae ei deulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 74 29/11/2015.