Israel 2 - 2 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru v KazakhstanFfynhonnell y llun, JFP Images
Disgrifiad o’r llun,
Dydi Cymru heb ennill oddi cartref ers curo Belarws 3-0 yn 2014

Daeth merched Cymru'n agos i ennill mewn gêm gyfartal yn erbyn Israel yn rowndiau rhagbrofol Euro 2017.

Roedd Cymru ar y blaen o 2-1 diolch i ddwy gôl Natasha Harding, ond fe rwydodd Rachel Shelina ar ôl 83 munud i unioni'r sgôr.

Israel sgoriodd gyntaf yn Ramat Gan gydag ergyd troed chwith Lee Sima Falkon ar ôl 25 munud.

Ond fe sgoriodd Harding, ymosodwr Manchester City, ddwywaith yn yr ail hanner i ddod â'r cochion yn agos at fuddugoliaeth, cyn i gôl Shelina chwalu eu gobeithion.

Mae'r pwynt yn gadael tîm Jayne Ludlow yn drydydd yng Ngrŵp 8, dau bwynt o flaen Israel sy'n bedwerydd.

Fe ennillon nhw'u gêm gyntaf yn y grŵp pan guron nhw Kazakhstan o 4-0 ddydd Iau diwetha'.

Mae eu gêm nesa' ar 12 Ebrill 2016 oddi cartref yn erbyn Kazakhstan.